Y cysyniad
Mae DAWN/S yn berfformiad dawns 15 munud o hyd, wedi ei leoli mewn man cyhoeddus.
Mae DAWN/S yn deitl sydd â dau ystyr: ‘Dawn’ yn Saesneg yw’r ennyd yn ystod y dydd pan fo’r diwrnod yn cychwyn, popeth yn dechrau ac adfywio, yn profi ail-enedigaeth. Ond hefyd, mae Dawns ag ystyr yn Gymraeg, a’n nod gyda’r perfformiad hwn yw dod â dawns i amlygrwydd ymhlith pobl Cymru, trwy berfformio mewn llefydd cyfarwydd sy’n rhan o’i hamgylchedd bob dydd, a thrwy hynny ei drawsnewid.
Rhoddir strwythur wedi ei wneud o hen gadeiriau yn sownd wrth elfen unionsyth a’i lapio â chen plastig. Mae’n ein hatgoffa o nyth ynteu we pry cop gan adleisio realiti. Mae rhywbeth yn anadlu o’i fewn. Ewch yn nes at y strwythur a gweld sut y mae’r bod hwn yn dechrau symud a thorri trwy’r plisgyn. Arhoswch yno, ac fe gewch dystio i’r ail-eni hwn.
 chywreinrwydd ynghylch y syniad hwn o weddnewidiad, nod DAWN/S yw bod yn drosiad o’r trawsffurfiadau a brofir gan bob peth byw yn ystod oes. Newidia ein cyrff, adnewyddir ein celloedd ac rydym yn ein hanfod yn fodau newydd, sydd, eto i gyd, yn cadw hanfod yr hyn a adawir ar ôl.
Wedi ei ysbrydoli gan drawsnewidiad rhai anifeiliaid, megis lindys yn troi’n bili pala mae Francesc Serra Vila yn argymell strwythur sy’n rhyw fath o grysalis, nyth amddiffynnol lle gall rhywun, ynteu rywbeth, dychwelyd iddo pan fo’r angen yn codi i drawsnewid i mewn i rywbeth newydd a gadael rhywbeth ar ôl, yn dilyn proses o hunan-ddewis a chyfnod o chwilio am hunaniaeth newydd.
Ond a oes gan y peth newydd hwn rhywbeth ar ôl o’r hyn a oedd yn bodoli o’r blaen? Beth sy’n creu’r gwahaniaeth rhwng y naill a’r llall, y bod a fodolai cyn ac ar ôl y trawsnewidiad? A ydym ni’n cadw atgof ynghylch ein trawsnewidiadau a’n cyfnodau bywyd amrywiol? Beth sy’n newydd, a beth fydd yn parhau’n barhaol o fewn ein bod?

Y gofod
Ein nod yw gweld sut y mae cyd-destun (gofod, amser y dydd) yn newid canfyddiad y gynulleidfa o’r un darn o ddawns, gan ganiatáu iddo amlygu haenau amrywiol o ystyr. Ond i weld hefyd sut y mae’r gofod yn cael effaith ar y perfformiwr a’r strwythur ac yn eu trawsnewid hwythau hefyd.
Mae DAWN/S yn argymell trosiad newydd sydd â’r nod o roi cychwyn ar broses newydd o feddwl. Ennyn ymateb yw'r nod yn hytrach na gorfodi unrhyw ddehongliad penodol ar y gynulleidfa.
Gall gofod cyhoeddus fod yn ofod ar gyfer celfyddyd – does dim rhaid i ddawns fod wedi ei ynysu o fewn theatrau bob amser. Trwy ei gynnal mewn gofod cyhoeddus gall gyrraedd cynulleidfa ehangach. Credwn mewn cyfoethogi canfyddiad y cyhoedd o lefydd ac o berthynas agosach rhwng perfformiwr a gwyliwr.

Y tarddle
Dechreuodd DAWN/S fel prosiect ymchwil dau ddiwrnod o hyd o dan nawdd Departure Terminal Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Datblygodd a pherfformiodd Neus a Francesc ddrafft o’r perfformiad ym mis Chwefror 2013 yng nghyntedd Canolfan Mileniwm Cymru. Ar yr achlysur hwnnw, roedd y rhyngweithio â’r adeilad yn hanfodol ac fe sefydlodd gynsail ar gyfer datblygu pellach.